Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu ei fod yn haws rheoli'r broses cofrestru awtomatig. Fe ddylech chi ofalu fod eich proses (neu feddalwedd) cyflogres yn addas ar gyfer cofrestru awtomatig. Bydd hefyd gofyn ichi gadw cofnod o wybodaeth eich staff.
Pan fyddwch yn cofrestru staff ar gynllun pensiwn, bydd angen ichi wybod y canlynol:
- dyddiad geni
- cyflog
- rhif Yswiriant Gwladol
- manylion cyswllt gweithwyr
Prosesau a meddalwedd Cyflogres
Os ydych chi'n ystyried prynu meddalwedd cyflogres, fe ddylech chi ddewis meddalwedd sy'n ymdrin gyda chofrestru awtomatig er mwyn ichi fedru ei ddefnyddio i ddarganfod pwy sydd angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn. Gall eich darparwr cyflogres gynnig gwybodaeth am hyn.
I weld rhestr o feddalwedd cyflogres am ddim a gyda thâl (gyda llawer yn cynnig nodweddion cofrestru awtomatig) ewch i www.gov.uk/payroll-software/overview
Os ydych chi'n penderfynu dewis rhywun arall i gynnal eich proses cyflogres, fe ddylech chi wirio fod y meddalwedd maen nhw'n eu defnyddio yn ymdrin â chofrestru awtomatig.